< Back to blog

11.08.2021 | By Teresa Quail

Ofcom (Broadcasting) – Consultation: Guidance for on-demand providers on protecting users from harmful material

Posted in News

Consultation: Guidance for on-demand providers on protecting users from harmful material
Ofcom is seeking views on proposed new guidance to assist on-demand programme services (ODPS) in making judgements about how best to protect viewers from harmful material.
ODPS providers include TV catch-up, online film services and those providing a library of archive content.
Our proposed guidance reflects the requirements of the Audiovisual Media Services Directive (AVMSD) and its implementation of it by the UK Government. These rules place new responsibilities on ODPS providers – including that they take appropriate measures to protect under-18s from certain types of harmful content.
Our updated guidance includes detail about the kind of material that is prohibited on ODPS. It also sets out measures which may be appropriate for protecting users from other potentially harmful material, and how these might be best implemented. This includes applying robust age verification measures for pornographic material.
Responses to our consultation must be submitted by 5pm on 14 September 2021. Taking account of feedback, we expect to publish our final guidance later in 2021.

Ymgynghoriad: Arweiniad ar gyfer darparwyr ar-alw ar ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol
Heddiw mae Ofcom yn ceisio barn am arweiniad newydd arfaethedig i gynorthwyo gwasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS) wrth lunio barn am y ffordd orau o ddiogelu gwylwyr rhag deunydd niweidiol.
Mae darparwyr ODPS yn cynnwys gwasanaethau dal i fyny ar deledu, ffilmiau ar-lein a’r rhai sy’n darparu llyfrgell o gynnwys archif.

Mae ein harweiniad arfaethedig yn adlewyrchu gofynion y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled (AVMSD) a’i gweithrediad gan Lywodraeth y DU. Mae’r rheolau hyn yn gosod cyfrifoldebau newydd ar ddarparwyr ODPS – gan gynnwys cymryd camau priodol i ddiogelu’r rhai dan 18 oed rhag mathau penodol o gynnwys niweidiol.
Mae ein harweiniad wedi’i ddiweddaru’n cynnwys manylion am y math o ddeunydd sydd wedi’i wahardd ar ODPS. Hefyd, mae’n disgrifio mesurau a allai fod yn briodol o ran diogelu defnyddwyr rhag deunyddiau eraill a allai fod yn niweidiol, a’r ffordd orau o roi’r rhain ar waith. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso mesurau dilysu oedran cadarn ar gyfer deunydd pornograffig.
Mae’n rhaid cyflwyno ymatebion i’n hymgynghoriad erbyn 5pm ar 14 Medi 2021. Gan gymryd adborth i ystyriaeth, rydym yn disgwyl cyhoeddi ein harweiniad terfynol yn ddiweddarach yn 2021.